![lirikcinta.com](https://www.lirikcinta.com/statik/logonew.png)
ar lan y môr - traditional welsh folk lyrics
Loading...
ar lan y môr mae rhosys cochion
ar lan y môr mae lilis gwynion
ar lan y môr mae ‘nghariad inne
yn cysgu’r nos a chodi’r bore
ar lan y môr mae carreg wastad
lle bûm yn siarad gair â’m cariad
o amgylch hon fe dyf y lili
ac ambell gangen o rosmari
ar lan y môr mae cerrig gleision
ar lan y môr mae blodau’r meibion
ar lan y môr mae pob rinweddau
ar lan y môr mae nghariad innau
llawn yw’r môr o swnd a chegryn
llawn yw’r wy o wyn a melyn
llawn yw’r coed o ddail a blode
llawn o gariad merch wyf inne
mor hardd yw’r haul yn codi’r bore
mor hardd yw’r enfys aml ei liwie
mor hardd yw natur ym mehefin
ond harddach fyth yw wyneb elin
Random Song Lyrics :
- nie wierzę piosence - edyta geppert lyrics
- forget them - binama lyrics
- energy song - xavier rudd lyrics
- tödlich - mziu (mziuuizm) lyrics
- паранойя (paranoia) - триада (triada) lyrics
- the joke - the connells lyrics
- vou catucar seu boga - mc keron lyrics
- soy luz y sombra - ry cooder lyrics
- wrong raw tongue, rocks wrong - holy bouncer lyrics
- flawlessa - boy willows lyrics