y ferch o blwy penderyn - traditional feat. stuart burrows lyrics
‘rwy’n caru merch o blwyf penderyn, ac yn ei chanlyn ers lawer dydd;
ni allwn garu ag un ferch arall, er pan welais ‘run gron ei grudd.
mae hi’n ddigon hawdd ei gweled, er nad yw ond dyrnaid fach;
pan elo i draw i rodio’r caeau, fy ‘nghalon glaf hi wna yn iach.
pan o’wn i’n myned ar ryw fore yn hollol ddiflin tua’m gwaith,
mi glywn aderyn ar y brigyn yn tiwnio’n ddiwyd ac yn faith,
ac yn d’wedyd wrthyf innau, “mae’r ferch wyt ti’n ei charu’n driw
yn martsio’i chorff y bore fory tua rhyw fab arall, os bydd hi byw.”
‘rwy’n myned heno, dyn am helpo, i ganu ffarwel i’r seren syw;
a dyna waith i’r clochydd fory fydd torri ‘medd o dan yr yw!
a than fy enw’n ‘sgrifenedig ar y tomb wrth fôn y pren,
fy mod i’n isel iawn yn gorwedd yng ngwaelod bedd o gariad gwen.
Random Song Lyrics :
- love scars - yung bleu lyrics
- mary christmas - ken demacra lyrics
- situations - t. karras lyrics
- intro - luiskngs lyrics
- mais uma noite - jeann e julio lyrics
- miracle mile - annie lyrics
- vèvè lokal - kanis lyrics
- fatherless - sílvia pérez cruz lyrics
- choppa - lil woodryc lyrics
- all for nothing - matt berninger lyrics