gwaed ar yr eira gwyn - tecwyn ifan lyrics
Loading...
ym mynwes y ddaear y cysgodd y gwir
gorwedd eu cyrff ar y bridd y tir
collwyd y dydd rhwng y bryniau hyn
sychodd y gwaed ar yr eira gwyn
gwaed y gwir ar yr eira gwyn
gwaed ar yr eira gwyn
oer yw’r cwm, diffoddodd y tan
ciliodd yr adar, tewodd eu can
marw breuddwyd oesol fan hyn
dyna yw’r gwaed ar yr eira gwyn
gwaed y gwir ar yr eira gwyn
gwaed ar yr eira gwyn
ni welir un croes am na thorrwyd run bedd
gadawyd y cyrff i orwedd mewn hedd
gadawyd y cyfan i gysgu fel hyn
tra’r erys y gwaed ar yr eira gwyn
gwaed y gwir ar yr eira gwyn
gwaed ar yr eira gwyn
gwaed y gwir ar yr eira gwyn
gwaed ar yr eira gwyn
Random Song Lyrics :
- ordinary day - robbie dupree lyrics
- die physische wahrheit - rotten monkey lyrics
- drip - arix$age lyrics
- меня два (me two) - preelost lyrics
- jungle - ea$y taven lyrics
- ref x lasety - sanırım oldu - refsound lyrics
- off kilter - hindley lyrics
- omega - alega lyrics
- roll em up - gully (peckham) lyrics
- ushla - sonic death lyrics