gwreiddiau - sŵnami lyrics
[geiriau i “gwreiddiau”]
[pennill 1]
maen nhw’n dweud bod awyr
ar ei dywylla’ cyn y wawr, y wawr
felly dudwch wrthai pam
bod pob cam dwi’n cymryd
yn fy ngwthio nôl i lawr, i lawr
[cyn*gorws]
ond dwi dal i drio neud, neud, neud
beth maen nhw’n ddeud, ddeud, ddeud
tan ddaw’r awr i allu mynd heb droi yn ôl
[corws]
ond pan mae’r cyfle’n dod i adael
gwreiddiau’n estyn rownd fy ngwddf
a fy nhynnu nôl, yn llusgo nôl
er bod golau’r ddinas bell
yn dal i addo dyddiau gwell
mae’n ‘y nhynnu nôl, yn llusgo nôl
[pennill 2]
mae’r ffordd i weld ar agor
wrth agosáu, mae’r drws ar gau
fydd rhaid jyst dal i geisio
[cyn*gorws]
neud, neud, neud
beth maen nhw’n ddeud, ddeud, ddeud
tan ddaw’r awr i allu mynd heb droi yn ôl
[corws]
ond pan mae’r cyfle’n dod i adael
gwreiddiau’n estyn rownd fy ngwddf
a fy nhynnu nôl, yn llusgo nôl
er bod golau’r ddinas bell
yn dal i addo dyddiau gwell
mae’n ‘y nhynnu nôl, yn llusgo nôl
[offerynnol]
Random Song Lyrics :
- butterfly - ekoh lyrics
- air force 1 - ma$ky lyrics
- bands ii - daniel rice lyrics
- one time - mk xyz lyrics
- bad guy - charlie benante lyrics
- qué harías - jeje lopes lyrics
- dragon ride - general mumble lyrics
- melekler ağlar - kırac lyrics
- envoyez ça à votre crush - theo babac lyrics
- #imsippinteainyohood (nft) - xxxtentacion lyrics