oer - gwilym lyrics
Loading...
hir amharu am awr
disgyn i lawr
ar dy feddwl yn oer â’r atgofion ddoe
mae’n dy rhewi di’n lan
cledu dy gân
a mae’r aelwyd yn ddu ac yn oer
mae i’w glywed yn glir
ar hyd y tir
mae’th aelwyd ar y plwy
does na’m tân dim mwy
achos dwi’n oer hebdda chdi
achos dwi’n rhewi hebddan ni
pluen wen o’r nen ar dy ben
sydd ar dy feddwl di
llunio darn o rhew
gyda pobl yn dy
weld di ac yn sbio ar dy gred di tra ti’n sefyll yno’n gwenu’n ddel
ti’n meddalu
o flaen nhw’i gyd
gyda’th gampwaith yn y gornel yn yr
ogof honno’r oriel, trio dianc i arallfyd
mae i’w glywed yn glir
ar hyd y tir, a’th aelwyd ar y plwy’
does na’m tân dim mwy
achos dwi’n oer hebdda chdi
a dwi’n rhewi hebddan ni
pluen wen o’r nen ar dy ben
sydd ar dy feddwl di
Random Song Lyrics :
- marie - shaun blanch lyrics
- drill capitale - davide goldeiv lyrics
- asking for it - v o e (edm) lyrics
- plastiktüten - rokko weissensee lyrics
- madraykin - queenadreena lyrics
- entropy - ensou lyrics
- buy ambien online treat sleep disorder | insomnia - health lyrics
- hardcore rap - onyx lyrics
- frankenstein - yanni welkin lyrics
- fiecare - vunk lyrics