gweddi a'r clwyf - datblygu lyrics
fy nhad, yr wyt yn aberteifi
daniel yw dy enw, a’r teledu dy deyrnas
nid wyf am ddim yn dy ewyllys
ac rwy’n methu ar y ddaear hefyd
dyro i mi heddiw fy ngwin coch beunyddiol
paid maddau i mi, does gen i ddyledion
a does neb mewn dyled i mi
paid fy arwain i brofedigaeth eto
canys ti yw fy nhad
rwy’n sberm o dy geilliau
a beth ddysgon nhw i ti yn y llynges, huh?
yn gyntaf: “paid siarad â mercced dieithr mewn trenau
rhag ofn i nhw dy gyhuddo o’u treisio”
ti’n gweld, nid oedd y llynges am i ti fod yn briod
o’ nhw dy angen fel caethwas gwyn
ac yn ail dywedon nhw
“paid siarad gwleiydiddiaeth, paid siarad crеfydd”
nid oedd y llynges am i’r caethwеision gwyn i weld faint oedd ganddynt yn gyffredin
ac rwy’n maddau i ti am fy ngenedigaeth
rwy’n maddau i ti am fy nghuro â ffon
o’ ti’n gaethwas i’r system am hanner can mlynedd
a rwy’n maddau i ti am bridio fy mam
rwy’n maddau i ti am fy nghuro â ffon
fy nhad, yr wyt yn aberteifi
daniel yw dy enw, a’r teledu dy deyrnas
nid wyf am ddim yn dy ewyllys
ac rwy’n methu ar y ddaear hefyd
dyro i mi heddiw fy ngwin coch beunyddiol
paid maddau i mi, does gen i ddyledion
a does neb mewn dyled i mi
paid fy arwain i brofedigaeth eto
canys ti yw fy nhad
rwy’n sberm o dy geilliau
yn oes oesoedd, amen
nawr rwy’n cwysgu yn fy nillad
mewn tlodi bywyd rhwydd
rwy’n byw ar lot o ddim byd
dyna’r gweddi, dyna’r clwyf
amen
Random Song Lyrics :
- apresentação - victor pooh lyrics
- feudo familiar - j.s homero lyrics
- down - mnro lyrics
- dark - nick camryn lyrics
- notti (remix) - nobridge lyrics
- mehr geht leider nicht - herbert grönemeyer lyrics
- i am a dragon - cilihili lyrics
- malaysia panas, bro - joe flizzow lyrics
- popping different - calibanvexi lyrics
- just ask fo' lucy - the kentucky headhunters lyrics