ci mewn cariad - datblygu lyrics
mae’r offeiriad yn gyndyn efo’r bara a’r gwin
ti’n gorfod gweithio, rwy ar ben fy hun
sdim angen offeiriad i fendithio be’ rwy’n teimlo
ti wedi fy nghyffwrdd, ti yw’r chwyldro
arian yw arian, dy gorff yw’r aur
ni’n caru ein gilydd fel iesu a mair
sdim ots os rwy’n marw, rwy’ wedi byw
dy addoli yw addoli duw
sai’ am odli fel dafydd ap gwilym
neu sentimentalrwydd can serch neu englyn
ti’n fwy pwysig na’r iaith gymraeg
bob tro ti’n agos, rwy’n dy drin fel gwraig
sdim angen modrwy na thynnu llw
ni yw ni a nhw yw nhw
maent wedi ein cadw ar wahân am rhy hir
pwy bynnag yr ydynt, yr ydym yn bur
cusanu ti yw mynychu paradwys
a sdim byth casgliad yn dy eglwys
ti’n burach na sach o efengylwyr
diolch yn fawr iawn am fy nerbyn i i’r nefoedd oherwydd
arian yw arian a dy gorff yw’r aur
a ni’n ffycio ein gilydd fel iesu a mair
a sdim ots os rwy’n marw, rwy’ wedi byw
a dy addoli yw addoli duw
dim ond geiriau yw rhain yn sychu ar bapur
ond pan rwy’n dy ddal, rwy’n ffycio mam natur
ti’n fwy pwysig na dyfodol cymru
arhosa’n rhydd, rwy’n dy garu fel hynny
arian yw arian, dy gorff yw’r aur
ni’n ffycio ein gilydd fеl iesu a mair
sdim ots os rwy’n marw, rwy’ wedi byw
dy addoli yw addoli duw
Random Song Lyrics :
- pringle creek - ellis (pop) lyrics
- country life - sports team lyrics
- no_wings:ballad - amir zera lyrics
- livin' good - yung ki lyrics
- panodil - gammelmor lyrics
- afogado - chico e o mar lyrics
- don't want (single) - mariahlynn lyrics
- parallel line - 75a lyrics
- all you do is talk - stogie t lyrics
- momente - bvcovia lyrics