lirikcinta.com
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

aberdaron - bwncath lyrics

Loading...

pan fwyf yn hen a pharchus
ag arian yn fy nghod
a phob yn canu ‘nghlod

mi brynaf fwthyn unig
heb ddim o flaen ei ddôr
ond creigiau aberdaron
a thonnau gwyllt y môr

pan fwyf yn hen a pharchus
a’m gwaed yn llifo’n oer
a’m calon heb gyflynnu
wrth wylied codi’r lloer
bydd gobaith im bryd hynny
mewn bwthyn sydd â’i ddôr
at greigiau aberdaron
a thonnau gwyllt y môr

pan fwyf yn hen a pharchus
tu hwnt i fawel a sen
a’m cân yn nôl y patrwm
a’i hangerdd oll ar ben
bydd gobaith im bryd hynny
mewn bwthyn sydd â’i ddôr
at greigiau aberdaron
a thonnau gwyllt y môr

oblegid mi gaf yno
yng nghri’r ystormus wynt
adlais o’r hen wrthyfel
a wybu f’enaid gynt
a chanaf â’r hen angerdd
wrth syllu tua’r ddôr
ar greigiau aberdaron
a thonnau gwyllt y môr

ar greigiau aberdaron
a thonnau gwyllt y môr

Random Song Lyrics :

Popular

Loading...